Gwahoddiad i ddigwyddiad gwleidyddol – Bywyd Cyhoeddus Cymru a Grym Cyfiawnder

Gwahoddiad: Bywyd Cyhoeddus Cymru a Grym Cyfiawnder

Gwahoddiad i wleidyddion Cymru i ymuno â phrynhawn gwleidyddol sy’n rhan o gynhadledd am ddiwylliant Cymru a chyfiawnder, ddydd Gwener 14 Hydref 2022, wedi’i ddwyn ynghyd gan y Llyfrgell Newydd a Phrifysgolion Caergrawnt, Caerdydd a Bath Spa yn Llanilltud Fawr.

Menter yw hon i gyflwyno adnoddau ffres, egnïol a hanfodol ddynol i’r drysni gwleidyddol a diwylliannol presennol yn y DU mewn ffordd syml, glir a chyhoeddus. Mae’n gynnig i’r holl brif bleidiau gwleidyddol.

Mae’r prynhawn yn rhan o archwiliad newydd â gogwydd Cymreig o rym trawsnewidiol cyfiawnder mewn bywyd cyhoeddus.

Gwybodaeth gefndirol am y gynhadledd: Paul Tillich Heddiw: Dau Wreiddyn y Meddwl Gwleidyddol (rhagymadrodd)

The intellectual defence of Anglo-Saxon civilisation against fascist ideologies is extremely weak. Common-sense philosophy and pragmatism are not able to provide criteria against the dynamic irrationalism of the new movements; and they are not able to awaken the moral power of resistance necessary for the maintenance of the humanistic values embodied in Western and Anglo-Saxon civilisation.

Paul Tillich, Morality and Beyond

Estynnir y gwahoddiad hwn i’r prynhawn gwleidyddol yn archwilio grym trawsnewidiol cyfiawnder mewn bywyd cyhoeddus i wleidyddion cenedlaethol a gwleidyddion etholedig lleol o bob plaid.

Dydd Gwener 14 Hydref 2022

1.15pm: Cinio cawl

2.00 – 3.30pm: Prynhawn gwleidyddol – Bywyd Cyhoeddus Cymru a Grym Cyfiawnder

Lleoliad: Y Llyfrgell Newydd, Eglwys Sant Illtud, Stryd y Coleg, Llanilltud Fawr CF61 1SG

 

I wleidyddion a staff sy’n dymuno derbyn y gwahoddiad, a fyddech cystal â rhoi gwybod i:  justice@newlibrary.wales

Mae nifer gyfyngedig o docynnau i’r cyhoedd ar gael yma.

More projects...