Ymchwilio diwylliannol Cymreig – mythau tarddiad a chyfiawnder

ENGLISH

Ymchwilio Diwylliannol

Chwedlau tarddiad – sut y gallwn ni ddeall eu grym, problemau a photensial creadigol?

Archwiliad diwylliannol cyhoeddus agored o ‘chwedlau tarddiad’ gyda sefydliadau, cymunedau ac ysgolion ar draws de Cymru ar y cyd â chynhadledd academaidd yn Llanilltud Fawr (12fed – 14eg Hydref 2022) gyda Llyfrgell Newydd Llanilltud Fawr, Prifysgol Bath Spa, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Astudio Platoniaeth Prifysgol Caergrawnt.

yn gryno:

  • fe’ch gwahoddir i gyfranogi i archwiliad mewn i ‘chwedlau tarddiad’ a chyfiawnder
  • mae’n digwydd yn ne Cymru yr haf a’r hydref hwn
  • y themâu yw lles, bywyd cyhoeddus, addysg, newid hinsawdd, y cyfryngau, gwleidyddiaeth a ffydd
  • mae’n cael ei gyflwyno i chi gan yr elusen ddiwylliannol Coleridge Cymru
  • mae’n ddull newydd o weithio

Beth sy’n digwydd a phaham

Rydym yn archwilio dull newydd yn y tagfeydd cyfoes o fywyd cyhoeddus, gan ddefnyddio athroniaeth o ddiwylliant er mwyn dod o hyd i ffordd o gryfhau a gwella ein bywyd cyhoeddus; edrych ar ‘chwedlau tarddiad’ a chyfiawnder.

Cefndir

Mae archwiliad diwylliannol yn dechrau o rym creadigol a dinistriol ein mythau am ein tarddiad – sut y gall y ddealltwriaeth hon helpu bywyd yng Nghymru?

Straeon a naratifau am yr hyn yr ydym ni ac o ble yr ydym yn dod yw ‘Chwedlau tarddiad’.  Maent yn amrywio yn eu hyd a llên. O’r straeon yma, adeiladwn ddisgwyliadau a diwylliant. Maent wedi’u plethu’n ddwfn mewn sawl agwedd o’n hunaniaeth ddynol. Mae gan ‘Chwedlau tarddiad’ y gallu i fod yn sail i’n ffyniant dynol – er mae ganddynt hefyd y potensial i ryddhau’r dinistr mwyaf annymunol a chreulon. Cafodd yr athronydd Paul Tillich (1886-1965) ei alltudio o’r Almaen gan y Natsïaid yn 1933 am ysgrifennu llyfr arloesol yn amlygu grym dinistriol ‘mythau tarddiad’. Ni chafodd y llyfr ei gyfieithu i’r Saesneg tan 1977, ac felly nid yw’n adnabyddus iawn ym Mhrydain. Mae’n dechrau gyda chyflwyniad o ddeg tudalen o’r enw: The Two Roots of Political Thinking. Rydym yn mynd i archwilio hyn yng Nghymru. 

Mae gwreiddiau athronyddol ffasgaeth a chynnig – a phroblemau – ‘mythau tarddiad’ i gymdeithas ddynol wedi’u nodi’n glir ac yn wych gan Tillich. Amlinellir hefyd ganddo’r addysg a’r ymrwymiad sydd eu hangen er mwyn trawsnewid y grymoedd dinistriol yn ein bywydau unigol a chyffredin.  Cyn y gall unrhyw credo gwleidyddol neu gymdeithasol ddechrau, meddai Tillich bod yn rhaid archwilio cwestiwn rhagarweiniol: ‘beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol?’

Wrth ddod o hyd i’n hunain fel pobl –  mae’n amlinellu – ceir tensiwn dwfn rhwng yr hyn yr ydym mewn gwirionedd, a’r hyn y dylem fod.  Mae’n dangos sut mae ein naratif a’n straeon am ‘o ble rydyn ni’n dod’ a ‘beth rydyn ni’n meddwl ydyn ni’ yn cysylltu’n ymarferol â’r ffyrdd y mae unigolion a grwpiau yn ymddwyn ac yn gweithredu yn y byd. Naratifau a straeon o’r fath yw sail ein ‘mythau tarddiad’ ni. Maent yn cyflwyno eu hunain mewn sawl ffordd – ein cenedligrwydd, hunaniaethau, grwpiau cyfeillgarwch, addysg, gwaith, barn gwleidyddol, ymdeimlad o bwrpas, ymdeimlad o berthyn, nodweddion cymeriad, cefndiroedd teuluol, diwylliant crefyddol, eiddo, teithio… mae’r rhestr yn parhau. Mewn sawl ffordd ddwys, ein ‘hunaniaethau’ yw’r naratifau ‘o ble rydym yn dod’ a ‘beth rydym wedi’i wneud’. Cynhyrcha’r naratifau hyn ymdeimliad o ddiogelwch, ac maent hefyd yn annog ynom ambell i deimlad fod gennym yr hawl i ymddwyn a gweithredu mewn ffordd sy’n adlewyrchu’r ‘mythau tarddiad’ hyn.

Mae’n tynnu sylw at y ffaith nad yw’r byd yn ddigon mawr i gynnwys yr holl hawliau a gynhyrchir gan ein ‘mythau tarddiad’. O ganlyniad, mae ein hawliau a’n trachwantau yn aml yn gwrthdaro â hawliau pobl eraill. Y dasg ddynol fawr yw cydnabod ac archwilio ein straeon ‘o ble rydym wedi dod‘, ac yna ymgysylltu o ddifrif â grwpiau, pobl, cymunedau a chymdeithasau eraill, yn aml gan roi’r gorau i’n ymdeimlad o hawl, fel bod cyfiawnder yn cael ei flaenoriaethu mewn bywyd ac yn y byd.

Ymddangosodd Paul Tillich ar glawr cylchgrawn ‘Time’ ym mis Mawrth 1959

Mae Tillich yn gorffen drwy ddweud bod ‘i le rydym yn mynd’ ac ymwybyddiaeth o’r penderfyniad i weithredu dros gyfiawnder yn bwysicach nac ‘o ble rydym wedi dod’ yn y pen draw. Dyma yw, meddai, beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol.

Tillich oedd un o athronwyr mwyaf yr 20fed ganrif. Mae rhai o ddiwylliannau dynol mawr y byd wedi deall a dilyn y moeseg a’r syniad canolog hwn o fod yn ddynol. Nid yw’r dull hwn o feddwl a siarad yn gyffredin iawn ym mywyd cyhoeddus cyfoes Prydain, ac eto mae i glywed yn dawel yng Nghymru, felly bydd y gynhadledd a’r archwilio diwylliannol sydd i ddod yn rhoi cyfle i weld sut mae’r llif gwych hwn o feddwl a phrofiad dynol yn cyd-fynd yn eang â bywyd yng Nghymru heddiw a’r traddodiadau hynny sy’n sail i hyn.

Rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn ymchwiliad diwylliannol Cymreig i ddatgelu posibiliadau ar gyfer newidiadau radical a dynol dwfn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Wrth archwilio rhai o’r themâu hyn uchod, rydym yn ceisio cynnig trafodaethau a gwaith archwilio gyda chymunedau a sefydliadau partner ar draws rhai o’r meysydd canlynol:

Bywyd cyhoeddus a’n mythau tarddiad ni

Mae ein mythau tarddiad cenedlaethol, rhanbarthol, lleol a phersonol yn llywio ein hunaniaethau fel unigolion a chymunedau. Maent yn cyfrannu at ein hymdeimlad o gynefin a’n lles. Sut gallwn ni lywio ein hunaniaethau a’n hamgylchiadau os ydym yn amau nad yw ein hymdeimlad personol, cymunedol neu gyhoeddus o’n lle a’n llesiant yn iach i ni? Sut y gallwn archwilio mythau tarddiad yn iach yn y maes cyhoeddus?

Iechyd meddwl, lles a’n mythau tarddiad

Y seicolegydd Americanaidd Carl Rogers oedd yn gyfrifol am sefydlu mudiad cwnsela’r 20fed ganrif a sefydlu egwyddorion addysgiadol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Roedd Carl Rogers yn trafod yn ddwys gyda Paul Tillich am y posibilrwydd o drawsnewid pobl. Sut mae gwaith allweddol a hirhoedlog Carl Rogers sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei gynnal a’i ddathlu mewn addysg a bywyd cyhoeddus yng Nghymru heddiw? Sut y gall dull Rogers helpu ymhellach i drawsnewid ein cymdeithas yn iachus gyda chyfiawnder, a’n helpu i archwilio gwahanol fythau tarddiad?

Byw yn y byd naturiol – fel bodau dynol creadigol

The climate emergency means changes – big changes – for the ways in which we think about and live human life. The Welsh Government’s The Wellbeing of Future Generations Act is world-leading climate change legislation. And our whole society needs to act. How do the stories we tell ourselves about ‘what it means to be human‘ help us to navigate towards inevitable new carbon zero economies and ways of living? What myths of origin and senses of entitlement in our human culture are holding us back? Where in our culture and identities might we encounter the decision to adapt and change. How can we navigate healthy towards change and transformation? How can we strengthen our appetites for climate justice?

Mae’r argyfwng hinsawdd yn golygu newidiadau – newidiadau mawr – ar gyfer y ffyrdd rydyn ni’n meddwl am ac yn byw ein bywydau. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru yw deddfwriaeth newid hinsawdd fwyaf blaenllaw y byd, ac mae angen i’n cymdeithas gyfan weithredu. Sut mae’r straeon rydyn ni’n eu hadrodd i ni’n hunain am ‘beth mae’n ei olygu i fod yn ddynol’ yn ein helpu i lywio tuag at economïau carbon sero a ffyrdd o fyw newydd ac anochel? Pa chwedlau tarddiad a chwantiau ein diwylliant dynol sy’n ein rhwystro ni? Ble yn ein diwylliant a’n hunaniaeth y gallem ddarganfod y penderfyniad i addasu a newid? Sut allwn ni hwylio’n iach tuag at newid a thrawsnewid? Sut y gallwn ni gryfhau ein hawydd am gyfiawnder i’r hinsawdd?

Dysgu, ysgol ac addysg: trawsnewid chwedlau tarddiad

Mae ein plant yn dod at ei gilydd yn feunyddiol yn yr ysgol o wahanol gefndiroedd, aelwydydd, diwylliannau, safbwyntiau a dyheadau – mae ein hysgolion yn derbyn y plant yma i gyd gyda’r weledigaeth o alluogi pob plentyn i ddarganfod cyfleoedd newydd yn y byd – cyfleoedd sy’n gallu addo mwy na’r mannau y maent wedi dod ohonynt. Mae ein haddysg yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn ganolog i gyfiawnder i’n holl ddinasyddion – bywyd, iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol ydyw. Pa ddealltwriaeth sydd ei hangen arnom o fythau tarddiad ac arweinyddiaeth o amgylch y term ‘plentyn-ganolog’ er mwyn helpu ein hysgolion a’n darparwyr addysg i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i helpu ein holl blant i ffynnu’n iach yn ein byd cymhleth sy’n llawn anghydweld?  Sut y gall plant archwilio deinameg, problemau a chynigion ‘chwedlau tarddiad‘ orau? Darllenwch fwy…

Gwleidyddiaeth a chwedl y dechreuad

Tillich’s analysis of fascism is little known in Britain today. His 1933 book wasn’t translated from German until 1977. His analysis of fascism is brilliant.

Pa chwedlau tarddiad cyferbyniol a chreadigol sy’n sail i’r gwahanol draddodiadau gwleidyddol yng Nghymru – a beth y gall y traddodiadau ceidwadol, sosialaidd, rhyddfrydol, gwyrdd a chenedlaetholgar gyfrannu a’i ddysgu o drafodaethau agored am eu gwahanol chwedlau tarddiad? Sut y gellir gwella’r ffordd y mae gwleidyddiaeth yn cael ei chynnig a chyflwyno drwy ymchwiliad a deialog o’r fath?

Traddodiadau ffydd – a bod yn ddynol

Mae traddodiadau ffydd y byd yn ymgysylltu’n ddifrifol ac yn ddwfn â straeon tarddiad, trawsnewid, cymuned a chyfiawnder. Roedd Tillich yn un o ddiwinyddion ac athronwyr diwylliant fwyaf yr 20fed ganrif, a arweinodd archwiliadau arloesol cynnar mewn deialog rhyng-ffydd. Pa fewnwelediadau sydd gan draddodiadau ffydd Cymru i gyfrannu at y sgwrs hon ac i’w datblygiadau eu hunain?

Cyfryngau, diwylliant a chredo

Mewn diwylliant, mae chwedlau tarddiad yn rymoedd cynnil a phwerus iawn ar gyfer cydlyniant a dinistr. Ym mha ffyrdd y mae’r rhai sy’n darparu ac yn rheoli ein cyfryngau, newyddion, adloniant a diwylliant yn deall y ffyrdd dwys y mae ffyniant dynol yng Nghymru yn cael ei ddal yn ôl neu ei feithrin gan ddybiaethau, darllediadau, prosiectau a chynnyrch sydd yn trosglwyddo deunydd a chredoau sy’n gysylltiedig â chwedlau tarddiad? O ystyried grym creadigol a dinistriol mythau tarddiad beth yw swyddogaeth artistiaid, theatr a barddoniaeth? Beth yw’r straeon y mae’r cyfryngau, darlledwyr, rheolwyr ac adrannau marchnata yn eu hadrodd i’w hunain am eu rôl yn ein heconomi a’n diwylliant – beth yw chwedlau tarddiad y diwydiant? Sut mae dadansoddiad Paul Tillich yn helpu pawb mewn cymdeithas i ddychmygu a chefnogi diwylliant, cyfathrebu a bywyd cyhoeddus iachach?

GWAHODDIAD

Os hoffai eich mudiad, sefydliad, cymuned neu fusnes ymateb, gofyn cwestiynau, cymryd rhan neu archwilio sut mae’r themâu hyn yn cael eu cynnal ym mywyd Cymru, cysylltwch â ni. Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â’r drafodaeth hon a’n helpu i greu’r archwiliad diwylliannol agored a diddorol hwn ar gyfer mis Hydref 2022.

Mae’r archwiliad diwylliannol hwn yn cael ei drefnu gan yr elusen hwyluso diwylliannol Coleridge Cymru ac mae’r gynhadledd academaidd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell Newydd yn Llanilltud Fawr.
Gallwch ffonio Richard Parry o Coleridge Cymru ar 07974 397771 – bydd Richard yn hapus i sgwrsio – neu anfonwch e-bost atom: waverleymusic @ live.co.uk
Bydd eich cwestiynau, eich pendroni, eich syniadau a’ch awgrymiadau chi’n llywio’r archwiliad diwylliannol yn sylweddol. Edrychwn ymlaen at y sgyrsiau sydd i ddod.
Gall unrhyw academyddion sy’n dymuno bod yn rhan o’r gynhadledd academaidd gyfochrog ym mis Hydref ddod o hyd i fanylion am sut i gyfranogi ymaPAUL TILLICH HEDDIW – DAU WREIDDYN Y MEDDWL GWLEIDYDDOL (rhagymadrodd)

(llun: Chris Glynn)

More projects...