Beth rydyn ni'n ei wneud
Rydyn ni’n creu a chyflwyno prosiectau diwylliannol ac yn datguddio posibiliadau newydd mewn bywyd cyhoeddus, busnes, addysg, cymuned, amgylchedd a lles. Rydym yn datrys problemau. Mae’n ffordd gyfannol o fynd ati. Rydyn ni’n creu gofod ble gall pethau newydd ddigwydd. Perthnasoedd newydd. Hyder newydd.
“Does dim digon o eiriau o glod gen i i ddisgrifio'r gwaith wnaethoch chi ar gyfer y tîm cyfan a'r ffordd fedrus aethoch chi o'i chwmpas hi... Ches i erioed ddigwyddiad a ysgogodd gymaint o sylwadau cadarnhaol gan fy nhîm - diolch o waelod calon gen i, ond dwi'n gwybod bod hynny'n dod gan y tîm cyfan hefyd”
Rydyn ni wedi gwneud gwaith i’r llywodraeth, i awdurdodau lleol, busnesau mawr, mentrau bychain, cymunedau, elusennau a sefydliadau ymgyrchu. Cwmni nid-er-elw ydyn ni, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n gwneud cais i fod yn elusen.
Ein gwaith…
creu carnifal rhyngwladol
Gofynnodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac asiantaeth dwristiaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Croeso Cymru, i ni gychwyn dathliadau bythgofiadwy Eisteddfod Genedlaethol 2018 yng Nghaerdydd. Ni a gynhyrchodd ac a gyfarwyddodd y dathliad awyr agored agoriadol, gan weithio gyda chymunedau lleol a hyrwyddo stori ryngwladol cysylltiad Cymru â’r byd. Roedd yn garnifal syfrdanol o fywiog ar noson o haf. Dywedodd yr Eisteddfod na allent gofio awyrgylch o’i fath erioed o’r blaen. Y diwrnod canlynol, darlledodd y BBC alwadau am ail-greu’r digwyddiad. Dyma ffilm fer sy’n rhoi blas o’r parti.
datblygu hwyluswyr
Rydyn ni’n helpu pobl i ddod yn hwyluswyr. Ac yn arweinwyr. Rydyn ni hefyd yn gwneud gwaith o safon fyd-eang yn datblygu sgiliau hwyluso. Mewn unrhyw sefydliad, natur y sgwrs sy’n peri i bethau newydd ddigwydd. Mae hyder yn trawsnewid sut mae pobl yn mynd ati i wneud pethau. Mae gennym flynyddoedd o brofiad o ddatgloi potensial a rhyddhau egni newydd a helpu pobl i fagu hyder. Ymysg ein cleientiaid mae prifysgolion, sefydliadau sector cyhoeddus, banciau a diwydiant. Weithiau rydyn ni’n gweithio mewn amgylchiadau anodd, gyda phroblemau dyrys, ond drwyddi draw rydyn ni’n darganfod dealltwriaeth, pobl a gweledigaeth sy’n helpu i feithrin eglurder ac ymroddiad ac i achosi i bethau symud. Mae ein gwaith yn berson-ganolog, ac rydym yn datblygu’r sgyrsiau a gawn i feithrin cymuned a phosibiliadau newydd. Rydym wedi gweithio gydag arweinwyr, uwch reolwyr, timau ac unigolion dros y blynyddoedd. Mae ein llwyddiant yn seiliedig ar y gallu i droi theori trefniadaeth yn ymarfer syml, personol a pherthynol. Rydym yn eich helpu i greu’r diwylliant y mae ei angen arnoch, o’r tu mewn. Gyda’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw. Datblygiad personol. Datblygiad tîm. Wrth gwrs, mae pob darn o waith yn wahanol, am fod pob person a phob tîm yn wahanol. Mynnwch sgwrs gyda ni ynghylch datblygu hwyluswyr a diwylliant hwyluso yn eich gweithle chi. Rydym yn sicr y gallwn eich helpu.
sgyrsiau cymhelliant a datblygu rheoli
Sgwrsio yw seilwaith diwylliant cymhelliant. Ni fydd gweledigaeth ragorol na strategaeth ragorol yn arwain i unlle os na allwch eu trosi yn berthnasoedd gwaith cynhyrchiol gyda grwpiau dynamig o gydweithwyr. Mae siarad, gwrando ac adfyfyrio gyda’n gilydd wrth wraidd y profiad dynol. Mae angen i’r bobl unigolyddol fwyaf disglair hyd yn oed weithio o fewn cymuned. Richard, sylfaenydd Coleridge yng Nghymru, a ddatblygodd ac a ysgrifennodd y rhaglen ymsefydlu genedlaethol i bostmyn, wedi’i wreiddio gan theori ac ymarfer cymhelliant (coaching), ar gyfer y Post Brenhinol. Mae wedi gweithio gyda llawer o sefydliadau ar bob lefel i archwilio sut i drin a thrafod problemau a datblygu syniadau o hynny, sut i ryddhau egni a sut i roi ffocws iach i gymuned waith. Mae e’n gyfforddus yn ystafell y bwrdd, mewn cynadleddau rheoli ac yn treulio amser yng ngweithrediadau sylfaenol cwmnïau a sefydliadau cyhoeddus. Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ar ddatblygu rheoli ac arweinyddiaeth, a hefyd “sgyrsiau cymhelliant” i unigolion ac i dimau – cyfle i’ch sefydliad chi ystyried sut gallwch drawsnewid eich diwylliant mewn ffordd sy’n gweithio i chi ac yn ôl eich sefyllfa.
ffyrdd newydd creadigol o feddwl
Rydyn ni’n gweithio gyda meddylwyr ac ysgrifenwyr blaenllaw. Rydyn ni’n gyfforddus mewn cylchoedd deallusol, academaidd a gwleidyddol. Rydyn ni wedi rhoi darlithoedd, sgyrsiau a symposia mewn prifysgolion ym Mhrydain ac yn yr Unol Daleithiau, i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, wedi annerch cynhadledd ryngwladol ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi rhoi prif ddarlith ar berthnasoedd yn y gwaith i Gyngres y Byd ar Reolaeth Lwyr ar Ansawdd ac wedi cynnal cynhadledd ar y cyd â Phrifysgol Caergrawnt. Rydyn ni’n arbenigo yn athroniaeth perthynas mewn diwylliant a bywyd cyhoeddus.
gweithio i'r Eden Project a Sefydliad Jo Cox
Roedd yr Eden Project a Sefydliad Jo Cox am ddod â chymunedau ynghyd ar draws Cymru, can eu huno mewn taith gerdded fawr o Swydd Efrog drwy Gymru, gan orffen yng Nghaerdydd. Fe’n gwahoddwyd ni i arwain yr antur. Ac fe gerddon ni ac fe ddathlon ni bob dydd am dair wythnos ar draws y wlad. Mae’r Eden Project yn credu y byddwn mewn lle cryfach i wynebu’r heriau amgylcheddol sydd o’n blaenau o fyw mewn cymunedau cryf. Richard o Coleridge yng Nghymru a arweiniodd y daith gerdded fawr, gan gyfarfod â phobl arbennig sy’n gadael eu cartrefi bob dydd i wneud pethau rhyfeddol i alluogi’r gymuned i ffynnu ble maen nhw’n byw. Darlledwyd cychwyn y daith o Swydd Efrog drwy Gymru yn fyw ar raglen y BBC, The One Show, gyda Richard yn canu anthem genedlaethol Cymru.
gŵyl genedlaethol â gweledigaeth
Mae gan Gymru gyfraniad enfawr i’w wneud at gwestiynau am gynaliadwyedd rhyngwladol, economi, perthynas, tirwedd a diwylliant. Roedden ni am wybod a oedd rhai o bryderon sefydliadau yn y brifddinas, Caerdydd, yn adlewyrchu’n llawn y gwahanol ffyrdd y caiff bywyd ei fyw ym mryniau, dyffrynnoedd a gwastatiroedd arfordirol Cymru. Felly yn 2016, fe aethon ni ar antur 80 diwrnod o amgylch y wlad i ddathlu diwylliant a chymunedau Cymru. Roedd yn ŵyl 80 diwrnod i ddarganfod trysorau dynol cudd ein bywyd cenedlaethol ac i archwilio sut gall hanes, llenyddiaeth a thraddodiadau cyfredol diwylliant Cymraeg ein helpu i ddatrys cwestiynau mawr ein hoes.
Buon ni’n gweithio gyda phrifysgolion, amgueddfeydd, ysgolion, cymunedau, gwleidyddion, busnesau, amgylcheddwyr, artistiaid, beirdd, ac anturwyr i gynnal yr ŵyl 80 diwrnod a deithiodd ar hyd a lled Cymru gan gynnal digwyddiadau mewn sefydliadau cenedlaethol, caeau, canolfannau cymunedol, trefi a thafarndai. Bu miloedd yn cymryd rhan. Mae’r trafodaethau’n parhau. Gŵyl Coleridge yng Nghymru oedd yr enw ar y gwaith, a dyna roddodd yr enw ar ein sefydliad ni heddiw.
dysgu creadigol mewn ysgolion
Gofynnodd Cyngor Celfyddydau Cymru i ni fentora ysgolion i archwilio ymagweddau creadigol at ddysgu ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru. Gan weithio gyda myfyrwyr a chymunedau ysgolion, fe arolygon ni’r gwaith o ddatblygu a gwireddu prosiectau llwyddiannus dynamig a greodd ysgol goedwig fel menter ar gyfer dysgu yn yr awyr agored; ymgysylltu â phlant bregus i wella ymgysylltiad drwy ddefnyddio seicotherapyddion a chwarae; prosiect animeiddio a ddatblygodd hyder a gallu mewn llythrennedd; a dylunio mosaig carreg prydferth gydag artist mosaig â phrofiad byd-eang a achosodd i’r ysgol ystyried sut maen nhw’n ymateb i’r syniad o ddieithriaid a sut rydyn ni wedi’n cysylltu â’n gilydd fel pobl.
Llyfrgell newydd yng Nghymru
Mae gwahaniaeth hanfodol rhwng “pobl” a “phethau”! Ac os byddwch chi’n trin pobl fel “pethau” neu “wrthrychau” yna bydd pethau’n mynd yn gymhleth, yn hwyr neu’n hwyrach. Efallai bod hyn yn amlwg yn ein bywydau personol bob dydd, ond mae diwylliant ehangach Prydain wedi cael trafferth gyda’r broblem hon ers cannoedd o flynyddoedd mewn bywyd cyhoeddus.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned yn nhref arfordirol fechan Llanilltud Fawr yn Ne Cymru. Mewn partneriaeth gydag eglwys hanesyddol Illtud Sant, a oedd yn sefydliad dysg Celtaidd adnabyddus yn y 6ed ganrif, rydyn ni wedi sefydlu llyfrgell newydd i helpu gyda’r maes hwn yn ymdrech y ddynol ryw. Mae’r Llyfrgell yn ceisio darparu adnoddau a chyfleoedd yn yr 21ain ganrif. Mae’n lle tawel, i fyfyrio a thrafod. A darllen, wrth gwrs! Llyfrgell Llanilltud yw’r enw arni. Wedi’i lleoli mewn porthdy canoloesol o’r 13eg ganrif, mae’r Llyfrgell yn gartref i Archif Coleridge yng Nghymru a hefyd i gasgliad rhyfeddol o lyfrau gan yr ysgolhaig Beiblaidd a’r diwinydd byd-enwog John Rogerson. Mae’r Llyfrgell yn ganolfan gysylltiol i Ganolfan Astudio Platoniaeth Prifysgol Caergrawnt. Gyda’r casgliadau hyn, gwahoddwn bobl o bob cefndir, o draddodiadau ffydd gwahanol ac o ddim un traddodiad ffydd o gwbl, o wahanol safbwyntiau gwleidyddol a diwylliannol, i ddod at ei gilydd i archwilio sut mai cyflwr perthynol, yn ei hanfod, yw bod yn aelod o’r ddynoliaeth. A sut mae hyn yn newid y ffyrdd y gallwn siarad, meddwl a gweithredu gyda’n gilydd.
Mae’n lle ble gall pobl ofyn rhai o’r cwestiynau mawr am fywyd, ac efallai ddarganfod traddodiad sydd â hanes hir sydd wedi’i anwybyddu i raddau helaeth yn y 240 mlynedd diwethaf o brif ffrwd hanes diwylliannol Prydain, ond sydd eto fyth, rywfodd, i weld yn gyfforddus ac yn gartrefol yng Nghymru.
agor tirweddau
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chyllid Llywodraeth Cymru gan Croeso Cymru i adrodd hanesion anhygoel gwahanol draddodiadau ffydd, o hen safleoedd hanesyddol Rhufeinig a Cheltaidd, i oes y saint, cyfnod yr oesoedd canol, twf Anghydffurfiaeth, a chrefyddau mawr y byd sydd wedi dod i Gymru yn y cyfnod modern. Mae’n helfa drysor gymunedol sy’n caniatáu i ymwelwyr a phobl leol ddod i adnabod tirwedd De Cymru.
Gwefan a ffilm gyflwyniadol
teithiau'r traddodiadau ffydd
Gofynnodd Esgobaeth Llandaf, sy’n rhan o’r Eglwys yng Nghymru, i ni helpu gyda phrosiect i’w gynnal ochr yn ochr â’r prosiect Tirweddau Ffydd, sydd wedi’i ariannu gan Croeso Cymru. Ac roeddem yn falch iawn o gael ymateb a helpu. Rydym wedi creu prosiect iddynt o’r enw Teithiau mewn Ffydd, a gyllidir gan yr Allchurches Trust, ble rydym yn gwneud darn o waith hwyluso sy’n ceisio helpu traddodiadau Cristnogol i feithrin mwy o hyder cyhoeddus i fod yr eglwys yn y dirwedd ddiwylliannol y maent yn rhan ohoni. Yn y gwaith arbenigol hwn, mae Coleridge yng Nghymru yn defnyddio’i sgiliau a’i arbenigedd mewn athroniaeth, perthynas a diwylliant.
Yn nhraddodiad Samuel Taylor Coleridge, a oedd yn ddiwinydd disglair ac arwyddocaol o Brydain, rydym yn ymfalchïo yn ein rhagoriaeth ddiwinyddol gadarn a’n dirnadaeth ddiwylliannol yn ein hymagwedd at y gwaith hwn, ac rydym yn deall bod y rhain o bryd i’w gilydd yn brin yn llawer o’n sefydliadau crefyddol traddodiadol.
comisiynau celfyddyd gyhoeddus
Gofynnwyd i ni greu celf gyhoeddus newydd ar gyfer Dinas Casnewydd i ddathlu mudiad y Siartwyr 1839 sy’n sicrhau lle mor bwysig i Gasnewydd yn hanes democratiaeth y byd. Fe gerfiom olion traed yn y stryd ble bu miloedd o weithwyr yn gorymdeithio a ble saethodd milwyr atynt wedyn. Fe ddylunion ni Garreg Filltir y Siartwyr a’i gosod yn Sgwâr Westgate, Casnewydd, gan bwyntio at y cysylltiad rhwng bywyd bob dydd pobl yn y ddinas a gwraidd egwyddorion democratiaeth.
Rydym hefyd wedi gwneud gwaith celf a pherfformio yn Oriel Genedlaethol Cymru, Caerdydd, yn Ysgol Ddylunio Rhode Island, UDA, ac yn Llysgenhadaeth Ffrainc yn Llundain.