Hanes a gweledigaeth

Ffurfiwyd Coleridge yng Nghymru i gynnig dolenni coll yn niwylliant Prydain. Rydyn ni wedi’n lleoli yng Nghymru. Rydyn ni wedi tyfu’n gyflym am fod pobl yn ymateb i’r ffordd rydyn ni’n gweithio.

Yn y byd modern, prysur sydd ohoni, dyw pobl ddim wedi arfer â chael eu clywed. Ond rydyn ni’n gwrando’n astud. Rydyn ni’n deall athroniaeth perthynas sydd wedi’i cholli yn llawer o’n diwylliannau sefydliadol a’n bywyd cyhoeddus.

Creaduriaid perthynol ydy pobl. Pan fyddwn ni’n siarad am hyn, ac yn dangos hynny, mae pobl yn dechrau cofio beth yw ystyr gweithio gydag eraill.

Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth hwyluso person-ganolog, gan wrando’n astud arnoch chi a’ch cydweithwyr, eich cymuned, eich busnes neu eich menter, a chan greu gofod i bethau newydd ddigwydd.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar brosiectau ffydd proffil uchel yn y blynyddoedd diwethaf, ac weithiau mae pobl yn gofyn i ni ai sefydliad crefyddol ydyn ni. Nid dyna ydyn ni. Cynnig gwasanaeth hwyluso rydyn ni, ac un o’r prif ddylanwadau arnon ni yw’r seicolegwr nodedig o America, Carl Rogers, a oedd yn gweithio mewn maes seciwlar. Ond rydyn ni’n deall Coleridge, sy’n ddiwinydd arbennig o Brydain. Mae hyn yn caniatáu i ni wneud gwaith hwyluso ym maes ffydd a diwylliant, yn ogystal â chymuned, amgylchedd, addysg, a busnes. Mae ein gwaith ni ar gyfer pawb.

Gallwch ddarllen yr hanes am sut dechreuon ni gyda’n cynnig a’n gwaith yn yr erthygl hon o gylchgrawn y Sefydliad Materion Cymreig o 2015.  

Cliciwch isod i ddarllen erthygl gan y Sefydliad Materion Cymreig ar sefydlu Coleridge yng Nghymru.

Mae ein gwaith wedi’i danategu gan syniadau’r seicolegwr Carl Rodgers.

Dyma erthygl gan Fiwro Addysg UNESCO am waith Rogers.

Anfonwch neges