Comisiynwch ni

Menter fechan yw Coleridge yng Nghymru sydd â gwaith mawr i’w wneud. Rydyn ni’n dylanwadu ar sut mae pobl yn meddwl am gymuned, am dirwedd ac am fusnes – ac yn helpu i ryddhau egni, hyder a diolchgarwch yn y gwaith ac yn y lleoedd ble rydyn ni’n byw.

Rydyn ni wedi cyflawni llawer yn y blynyddoedd cyntaf (cymerwch olwg ar ein gwaith) a hynny ar gyllidebau ceiniog a dimai. Rydyn ni wedi profi bod ein dull o weithio yn gweithio a’i fod yn ferw o straeon o lwyddiant a photensial. Ond nawr mae angen rhagor o gefnogwyr a chyllidwyr arnom i’n helpu i ddatblygu’r hyn a gynigiwn.

Mae dwy ffordd y gallwch ein helpu:

  • comisiynwch ni – ar gyfer ymgynghoriadau, datblygu tîm, datrys anghydfod, datrys problemau, meddwl yn strategol, neu ddatblygu cynnig diwylliannol. Rydyn ni bob amser yn dod ag ymarweddiad ac egni ffres i sefyllfaoedd anodd neu ddifywyd. 
  • cyllidwch ni – os gallwch chi helpu’n uniongyrchol gyda chyllid, gwnewch hynny ar bob cyfrif. Cysylltwch â ni i drafod sut y gallwch chi neu eich sefydliad roi cymorth ariannol i’r mudiad a’r dathliad hwn o’n galluoedd ni fel pobl. Mae angen pobl sydd â gweledigaeth ac arian i helpu’n gwaith. Siaradwch yn uniongyrchol â sylfaenydd a phrif weithredwr Coleridge yng Nghymru, Richard, ar 07974 39 7771. Os yw hyn yn berthnasol i chi, diolch o galon.

Anfonwch neges